Yn Ymroi I Hyrwyddo Iechyd A Ffitrwydd Yng Hghymru
  Cyngor Ymarfer Cymru
Cefndir
Cyngor Ymarfer Cymru
Iechyd a Ffitrwydd Yng Nghymru
Ein Hamcanion
Ein Strwythur
Cysylltiadau Perthynol
Manylion Cyswllt
Iechyd a Ffitrwydd Yng Nghymru
Gweithgarwch Corfforol a Ffitrwydd yng Nghymru
'Dringo'n Uwch' (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2005) yw'r strategaeth gyntaf yng Nghymru ar gyfer chwaraeon a hamdden weithgar ac mae wedi gosod targedau allweddol ar gyfer cynyddu gweithgarwch corfforol oedolion fel eu bod yn cyrraedd y lefel a argymhellir er mwyn cadw'n iach.
Dros yr ugain mlynedd nesaf y bwriad yw sicrhau cynnydd o un pwynt canradd y flwyddyn o leiaf yn y nifer o oedolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol cymedrol ddwys. Fodd bynnag, dim ond traean o oedolion Cymru sy'n gwneud digon o ymarfer corfforol i gwrdd â'r canllawiau a argymhellir (Cyngor Chwaraeon Cymru, 2005).
Ar hyn o bryd mae traean o oedolion Cymru'n aelodau o glwb/canolfan (Cyngor Chwaraeon Cymru, 2005) ac mae'r gweithgareddau mewn llefydd o'r fath yn aml yn cynnwys hyfforddiant defnyddio'r gampfa, circumflex on grwp, grwpiau hunan-arweiniad a chynlluniau Cyfeirio Ymarfer Meddyg Teulu.
Mae gan weithgareddau ffitrwydd ran fawr i'w chwarae gyda golwg ar alluogi'r genedl i ddod yn fwy gweithgar ac mae apêl gweithgareddau cysylltiedig ag iechyd yn amlwg, gyda data cyfranogiad yn dangos bod y gampfa, aerobeg a hyfforddiant cylchol ymhlith y 10 gweithgaredd mwyaf poblogaidd yng Nghymru (Cyngor Chwaraeon Cymru, 2005). Er mwyn cwrdd â gofynion y targedau gweithgarwch corfforol uchelgeisiol, mae angen i'r nifer o weithgareddau ffitrwydd ehangu dros Gymru gyfan ac mae gofyn cael mwy o weithwyr cymwysedig, proffesiynol i ddarparu'r rhain.

Y Gweithlu Iechyd a Ffitrwydd yng Nghymru
Fel rhan o'u Cytundeb Sgiliau Sector, comisiynodd Sgiliau Heini gwmni Experian i ymchwilio i'r gweithlu Hamdden a Dysgu Gweithgar yng Nghymru a dangosodd hwnnw fod oddeutu 1610 o weithwyr o fewn yr is-sector Iechyd a Ffitrwydd.
Roedd y gweithlu hwnnw'n cyfrif am tua 6% o'r sector Hamdden a Dysgu Gweithgar cyfan yng Nghymru ac roedd yn cynnwys rolau megis hyfforddwyr ymarfer, rheolwyr, derbynyddion a.y.b. (Asesiad Anghenion Sgiliau, Sgiliau Heini 2006)
Amcangyfrif yn unig yw'r ffigwr ar gyfer nifer yr ymarferwyr corff proffesiynol sy'n gweithredu ar hyn o bryd ar draws Cymru gan na chynhaliwyd ymchwil o fewn y sector preifat, y sector hunangyflogedig na'r sector cyhoeddus.
Mae'r Gofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol (REPs) yn sefydliad atodol dan berchnogaeth Sgiliau Heini ac mae'n system o hunanreoliad lle mae hyfforddwyr yn cael eu cofrestru yn ôl eu circumflex on â perthnasol. Mae penodi Swyddog Cofrestru REPs Cymru wedi hyrwyddo ymhellach y mecanwaith sicrwydd ansawdd hwn ar draws Cymru ac ar hyn o bryd mae dros 1080 o ymarferwyr corff proffesiynol yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer REPs, gyda 747 o aelodau presennol (Dadansoddiad Sgiliau REPs, 2006); mae hyn ar fin cynyddu, gyda tharged o 1000 o aelodau presennol erbyn 2007.
Bydd mwy o gofrestru'n cynyddu'r wybodaeth a gesglir am y farchnad lafur gyda golwg ar ymarferwyr corff proffesiynol yng Nghymru. Bydd canfod a chau bylchau mewn sgiliau a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr corff proffesiynol yn chwarae rôl bwysig gyda golwg ar gynorthwyo'r genedl i ddod yn fwy gweithgar, yn unol â thargedau Dringo'n Uwch.

English Version
Cartref Map O'r Safle