Yn Ymroi I Hyrwyddo Iechyd A Ffitrwydd Yng Hghymru
  Cyngor Ymarfer Cymru
Cefndir
Ein Hamcanion
Ein Strwythur
Y Pwyllgor
Aelodau'r Pwyllgor
Cysylltiadau Perthynol
Manylion Cyswllt
Aelodau'r Pwyllgor
Dave Congreve: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Dave yw’r Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Iechyd a Lles a chyn hynny roedd yn Brif Swyddog y Gwasanaethau Hamdden, Ieuenctid a Diwylliant. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer MSc mewn Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Cyhoeddus.
Ashley Pringle: Sgiliau Heini
Ashley yw Pennaeth Datblygu Sgiliau Heini'r Gwledydd Cartref . Ef yw rheolwr cyffredinol gwaith y Cyngor Sgiliau Sector yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban.
Julian Leybourne: Icon Training
Julian yw Rheolwr Gyfarwyddwr Icon Vocational Training Ltd, un o brif ddarparwyr y DU ar hyn o bryd sy’n debygol o gynyddu i fod yn fusnes sydd werth miloedd lawer erbyn 2009.
Richard Tobutt: Sgiliau Heini
Richard yw’r Rheolwr Rhaglenni ar gyfer Sgiliau Heini yng Nghymru ac mae’n gyfrifol am hyrwyddo prif weithgareddau’r Cyngor Sgiliau Sector ledled y wlad.
Anne-Marie Brackpool: Rhwydwaith Gweithgarwch Corfforol Cymru (PANW)
Anne-Marie yw Cydlynydd Rhwydwaith Gweithgarwch Corfforol Cymru (PANW) circumflex on î Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn darparu cymorth a phartneriaeth ar gyfer unigolion a sefydliadau ar draws yr holl sbectrwm o weithgarwch corfforol.
Paul Conway: Crown Fitness Club
Paul yw perchennog/rheolwr y Crown Fitness Club, cyn hynny roedd yn Rheolwr Cyffredinol gyda Bannatynes Fitness a Fitness First. Bu’n gweithio yn y diwydiant am flynyddoedd lawer, gan ddechrau fel hyfforddwr ffitrwydd, yna’n rheolwr ffitrwydd ac yna’n berchennog/rheolwr.
John Byers: Cofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol (REPs)
John yw Swyddog Cymru ar gyfer y Gofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol (REPs) ers Ionawr 2006. REPs yw’r mecanwaith sicrwydd ar gyfer y diwydiant Iechyd a Ffitrwydd a gyda CYC mae’n darparu ‘siop un safle’ ar gyfer iechyd a ffitrwydd yng Nghymru.
Andy Evans: Coleg Glan Hafren/ Canolbwynt Dysgu Sgiliau Heini
Ar hyn o bryd Andy yw’r Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd ac mae’n ddarlithydd cymwysedig. Mae Andy’n cydlynu Canolbwynt Dysgu Sgiliau Heini ac ef yw’r cynrychiolydd Addysg Bellach yng Nghymru ar gyfer Chwaraeon Prifysgol (UCS).
Gareth James: VT Training
Gareth yw Cydlynydd yr Hyfforddwyr Galwedigaethol sy’n darparu prentisiaethau yn y Sector Hamdden Weithgar ar draws Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Ewropeaidd (ESF). Bu Gareth yn gweithio ym maes Rheolaeth Hamdden am 5 mlynedd.
James Owens: Cyngor Chwaraeon Cymru
Graddiodd James mewn rheolaeth chwaraeon a hamdden yng Ngholeg Cheltenham a bu’n gweithio mewn canolfannau hamdden gwahanol ar draws y DU am 15 mlynedd. Erbyn hyn James yw Rheolwr Cymunedau Gweithgar Cyngor Chwaraeon Cymru yn Ne Orllewin Cymru.
Ceinwen Stokes: Cyngor Gwynedd
Ceinwen yw Swyddog Datblygu Iechyd a Ffitrwydd Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes Cyngor Gwynedd. Mae’n galluogi’r adran hamdden i weithredu ei hymrwymiad i’r strategaethau iechyd amrywiol presennol.
Rhian James: Rheolwr Datblygu CYC
Mae rôl Rhian yn cynnwys darparu cyngor a chymorth arbenigol a datblygu partneriaethau gydag unigolion/sefydliadau er mwyn cynorthwyo ehangiad y sector Iechyd a Ffitrwydd. Cyn ymgymryd â’r rôl hon, bu Rhian yn cydlynu nifer o brosiectau gweithgarwch corfforol ar gyfer menter Byw’n Iach Torfaen, gan gynnwys Cynllun Cyfeirio Ymarfer Meddyg Teulu a phrosiect Cerdded Llwybr Iechyd.

English Version
Cartref Map O'r Safle